Byddai’r pencampau wedi rhoi hwb i economi Cymru a phroffil byd-eang, meddai Plaid ACau
Mae Plaid Cymru wedi ymateb i’r newyddion na fydd unrhyw gais Cymru i gynnal Gemau’r Gymanwlad 2026 trwy feirniadu’r ‘ddiffyg uchelgais’ Llywodraeth Lafur Caerdydd.
Dywedodd AC Plaid Cymru dros y Gogledd Llyr Gruffydd bod llawer o ganolfannau chwaraeon posib yn y Gogledd yn addas iawn:
“Yma yng y Gogledd gallem, er enghraifft, fod wedi gweld Mharc Eirias ar gyfer rygbi 7 bob ochr, beicio mynydd yn Llandegla, tenis a hoci yn y canolfannau rhanbarthol yn Wrecsam. Yn ogystal, byddai’r rhanbarth wedi bod yn ddelfrydol ar gyfer beicio ffordd yn ogystal â’r triathlon a saethu. “
“Mae’n gywilyddus fod Llywodraeth Caerdydd yn cuddio y tu ôl i benderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd fel esgus dros beidio â gweithredu. Ond dylai canlyniad y refferendwm fod yn gymhelliant, nid yn rhwystr, i ddenu buddsoddiad newydd i Gymru.
“Yn hytrach na dangos gwytnwch a danfon neges glir y gall Cymru lwyddo er gwaethaf Brexit, mae’r Llywodraeth Lafur yn ymddangos fel pe bae’n rhoi’r gorau i geisio goresgyn yr heriau sy’n wynebu ein heconomi.
“Byddai cynnal y Gemau Gymanwlad yn 2026 wedi rhoi Cymru mewn ffenestr siop fyd-eang, gan ein galluogi i arddangos y gorau o’n cenedl fach i’r byd.”
Ychwanegodd Ysgrifennydd Iechyd y Cysgodol Rhun ap Iorwerth AC fod penderfyniad Llywodraeth Cymru yn “gamgymeriad enfawr” ac y byddai cynnal y Gemau yng Nghymru wedi bod yn gyfle i gefnogi chwaraeon ar lawr gwlad ac ysbrydoli mwy o bobl i fyw bywydau mwy egnïol.
Ychwanegodd yr AC dros Ynys Môn:
“Mae diffyg Llafur uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer ein cenedl yn druenus.
“Byddai cynnal y Gemau nid yn unig yn rhoi hwb i’r economi – byddai wedi caniatáu i ni gymryd camau breision o ran cefnogi mentrau chwaraeon yn ein cymunedau hefyd.
“Fel rhywun sy’n hyfforddi rygbi i bobl ifanc yn fy etholaeth i, rwy’n gwybod pa mor bwysig yw hi i ddatblygu diddordeb mewn chwaraeon o oedran cynnar ac ar lawr gwlad.
“Mae buddsoddi mewn chwaraeon yn hanfodol ar gyfer iechyd y genedl. Yn anffodus, drwy fethu â chydnabod hyn, mae Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd wedi gwneud traed moch o’r cyfle.”