Argymhellion anghyfreithlon i gau Ysgol

Wrth ymateb i ddyfarniad yr Ychel Lys ar yr argymhellion i gau Ysgoli Pentrecelyn ac Ysgol Llanfair DC er mwyn creu ysgol ardal newydd, meddai Llyr Gruffydd, rhiant-lywodraethwr ym Mhentrecelyn ac Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru:

“Mae’r dyfarniad yma wedi dangos yn glir fethiannau difrifol Cyngor Sir Ddinbych i lawn ystyried canlyniad eu hargymhellion ar y Gymraeg.

“Mae’r broses yn codi cwestiynnau dwys ynghylch methiant Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg i ymyrryd yn y broses. Heblaw am ddycnwch ac ymroddiad grwp bychan o rieni a chefnogwyr Ysgol Pentrecelyn byddai argymhellion Sir Ddinbych wedi cael eu gweithredu, argymhellion oedd yn seiliedig ar ymgynghoriad anghyfreithlon ac asesiad iaith anghyfreithlon.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu are u rhethreg o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg drwy sicrhau fod Awdurdodau Addysg Lleol yn gwneud mwy i gryfhau’r ddarpariaeth o addysg Gymraeg.

“Rhaid i Gyngor Sir Ddinbych dderbyn fod ganddi gyfrifoldeb nid yn unig i gynnal y lefel bresenol o addysg cyfrwng Cymraeg ond hefyd i’w chryfhau. Rydym yn edrych ymlaen i weld y Cyngor yn cymryd penderfyniad yr Uchel Lys i ystyriaeth wrth iddyn nhw adlewyrchu ar gategori iaith yr ysgol ardal newydd.”

Uchel Lys yn dileu penderfyniad Cyngor Sir Ddinbych i gau Ysgol Pentrecelyn, gan ddweud ei fod yn “anobeithiol o ddryslyd”

  • Dyfarniad hanesyddol ar addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Llys yn beirniadu’r Cyngor yn hallt yn dilyn asesiad anghyfreithlon o effaith y penderfyniad ar y Gymraeg, ymgynghoriad anghyfreithlon a “gwahaniaethau sylweddol” rhwng y fersiynau Saesneg a Chymraeg o’r un dogfennau cyhoeddus
  • Ymgyrchwyr lleol yn dathlu wedi blynyddoedd o wrthwynebu’r cynlluniau

Mae ymgyrchwyr sydd wedi herio penderfyniad Cyngor Sir Ddinbych i gau ysgol gynradd Gymraeg fechan ym Mhentrecelyn, Rhuthun, yn dathlu’r bore yma, ar ôl i’r Uchel Lys ddatgan mewn dyfarniad hanesyddol fod y penderfyniad yn anghyfreithlon. Dyma’r tro cyntaf erioed i lys ymyrryd er mwyn cadw ysgol ar agor oherwydd methiant i asesu’n ddigonol beth fyddai effaith cau’r ysgol ar yr iaith Gymraeg.

Yn 2015, cyhoeddodd Cyngor Sir Ddinbych gynllun i gau Ysgol Pentrecelyn, ysgol bentref cyfrwng Cymraeg ar gyfer 56 o ddisgyblion, a’i huno gydag ysgol ddwyieithog fwy yn yr un ardal, Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd, a hynny mewn adeilad newydd ar safle gwahanol. Byddai’r ysgol newydd yn ysgol ddwyieithog, nid yn ysgol cyfrwng Gymraeg. Mewn ardal wledig fechan, byddai hyn yn golygu fod yr un athro yn newid yn  gyson rhwng y Gymraeg a’r Saesneg drwy’r dydd er mwyn medru dysgu’r ddwy “ffrwd iaith” o fewn yr un dosbarth.

Mae Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru yn dweud fod yn rhaid cynnal Asesiad Effaith ar y Gymraeg a’r Gymuned (“AEGG”) o unrhyw gynllun i gau ysgol cyfrwng Cymraeg. Yn yr achos hwn, yn hytrach nag asesu beth fyddai effeithiau ieithyddol a chymunedol gwir gynllun y Cyngor i agor ysgol newydd ar safle newydd, effeithiau’r cynllun ‘interim’ yn unig i ‘uno’r’ ddwy ysgol ar y safleoedd presennol a aseswyd – yn ystod y cymal dros dro hwn, byddai’r disgyblion yn aros yn eu hadeiladau ysgol presennol, heb newid sylweddol yn natur y dysgu. Daeth yr AEGG hwn i’r casgliad mai dim ond effeithiau ieithyddol a chymunedol bychain y byddai’r cynllun ‘interim’ hwn yn ei gael.

Yn yr adolygiad barnwrol cyntaf o benderfyniad i gau ysgol gynradd cyfrwng-Gymraeg, haerodd Ymgyrch Pentrecelyn fod penderfyniad y Cyngor i roi’r cynllun ‘interim’ hwn ar waith heb ystyried effeithiau ieithyddol a chymunedol y cynllun yn ei gyfanrwydd, sef i uno’r ddwy ysgol ar un safle, yn anghyfreithlon. Roedd yr Ymgyrch hefyd yn dadlau fod ymgynghoriad y Cyngor yn aneglur ac yn anghyson o safbwynt ei hyd a’i led, a’i fod felly wedi methu â chyrraedd y safonau sylfaenol ar gyfer ymgynghoriad cyfreithlon.

Cafodd yr achos ei benderfynu gan ddau farnwr Uchel Lys – Mr Ustus Hickinbottom a’i Anrhydedd y Barnwr Milwyn Jarman QC. Y bore yma, cafodd y dyfarniad ei gyhoeddi’n ffurfiol yn Llys y Goron Wrecsam drwy gyfrwng cyswllt fideo. Roedd y llys yn feirniadol iawn o brosesau’r Cyngor. Dyma rai o’r paragraffau mwy arwyddocaol:

“64. Mae’n peri chwilfrydedd ac yn ymddangos yn artiffisial fod y Cyngor, wrth ystyried a ddylid gweithredu trefniant dros dro Cam 1, wedi anwybyddu’r trefniant parhaol a fyddai’n dilyn Cam 2. Yn ein barn ni, roedd effaith y trefniant parhaol ar yr iaith a’r gymuned yn amlwg yn berthnasol i’r penderfyniad ynghylch a ddylid cymryd y cam cyntaf ar ffurf Cam 1. Roedd cymryd y cam cyntaf ar hyd llwybr arfaethedig heb rywfaint o werthfawrogiad o’r risgiau o ran effaith anffafriol ar yr iaith a’r gymuned a allai fod o’n blaenau yn anghyfreithlon yn ogystal ag annoeth yn ein barn ni”.

“72. […] erbyn y cyfnod hwn, roedd yn amlwg bod y Cyngor wedi penderfynu beth oedd y dewis a ffafriai – y llwybr yr oedd yn dymuno ac yn bwriadu ei ddilyn – mewn perthynas â dyfodol addysg gynradd yn Llanfair Dyffryn Clwyd a Phentrecelyn. Fodd bynnag, yn anffodus, nid ydym yn ystyried bod yr eglurder hwnnw wedi cael ei ailadrodd yn y Ddogfen Ymgynghori. Mae’n rhaid ystyried y ddogfen honno yn ei chyfanrwydd; a, phan edrychir arni felly, rydym yn cytuno gyda Mr Lewis – roedd yn anobeithiol o ddryslyd.”

“76. O ystyried bod gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru (gweler adran 1(1) Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (2011 mccc 1)), mae’n anffodus iawn ar y lleiaf fod gwahaniaethau sylweddol rhwng fersiynau’r ddwy iaith o’r dogfennau hyn. Mae gan y sawl sy’n darllen dogfen o’r fath yn y naill iaith neu’r llall yr hawl i ddisgwyl nad oes unrhyw wahaniaeth arwyddocaol rhwng y ddwy iaith.”

Dywedodd Nia Môn, rhiant yn cynrychioli Ymgyrch Pentrecelyn:

“Mae hwn yn ganlyniad haneysddol, yn sicrhau nad yw Cyngor Sir Ddinbych yn cael israddio categori iaith ysgol ein plant yn dilyn proses mor ddiffygiol, yn llawn camgymeriadau sylfaenol. Mae wedi bod yn frwydr hir a chostus, ond nid ein bwriad wrth gyfreitha oedd gwarchod buddiannau ein plant ni’n unig; yr oeddem hefyd yn ceisio amddiffyn addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer Cymru gyfan. Mae’n syndod mawr fod y Cyngor wedi credu y byddai’n briodol israddio addysg Gymraeg ein plant mewn ardal mor Gymreig, ond yr halen yn y briw oedd yr ‘ymgynghoriad’ trychinebus o wan a oedd, yn ôl y llys heddiw, yn “anobeithiol o ddryslyd”. Mae’r iaith Gymraeg, a’r trethdalwyr lleol, yn haeddu gwell na hyn. Mae’r Cyngor wedi gwastraffu degau o filoedd o bunnau o arian cyhoeddus yn ceisio amddiffyn ei benderfyniad ‘anobeithiol’ yn y llys; mae ganddo waith mawr i’w wneud i adennill hyder y rhieni a’r disgyblion a gafodd eu amharchu yn y broses hon.”

Dywedodd Gwion Lewis, bargyfreithiwr yn Landmark Chambers, Llundain, a gynrychiolodd Ymgyrch Pentrecelyn yn llwyddiannus yn y llys:

“Dyma’r tro cyntaf i rywun gychwyn achos cyfreithiol er mwyn ceisio rhwystro ysgol cyfrwng Cymraeg rhag cael ei chau. Bu’n werth yr ymdrech gan fod y llys wedi cytuno fod sawl agwedd ar benderfyniad y Cyngor yn anghyfreithlon; mae’r llys wedi datgan, felly, na ellir cau’r ysgol fel y bwriedid. Bydd awdurdodau addysg lleol ledled Cymru yn awyddus i astudio’r dyfarniad hwn yn ofalus gan ei fod yn pwysleisio’r angen i gwblhau asesiad credadwy o’r effeithiau ieithyddol a chymunedol, unrhyw bryd y bwriedir newid y trefniadau ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.”

Mae’r achos hefyd yn arwyddocaol yn hanesyddol gan mai dyma’r eildro yn unig, ers i’r Uchel Lys gael ei sefydlu yn 1875, i rywun gyflwyno ei achos i’r llys yn yr iaith Gymraeg. Cafwyd dwy fersiwn o’r dyfarniad y bore yma: un yn Saesneg a’r llall yn Gymraeg.

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s