Mae gweinidog sgiliau yr wrthblaid Plaid Cymru wedi canmol Sainsbury’s ar ôl cyfarfod prentisiaid yn eu siop yn y Rhyl.
Dywedodd Llyr Gruffydd, AC Gogledd Cymru Plaid Cymru, fod prentisiaethau mewn pob math o amgylcheddau gwaith yn hollbwysig i ddatblygu sgiliau a galluoedd pobl ifanc.
Mae’r siop yn y Rhyl, sy’n cyflogi 300 o weithwyr, hefyd yn cludo bwyd a nwyddau cyn belled ag Ynys Môn.
Meddai Mr Gruffydd: “Roedd hi’n galonogol gweld gweithwyr ifanc yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau ar gynllun prentisiaeth a hefyd cyfarfod Paul, rheolwr y siop, sydd wedi dringo’r ysgol ar ôl dechrau yn casglu trolïau yn yr un siop.”
Roedd hefyd yn canmol y siop am gyfrannu tuag at elusen leol: “Rwy’n falch iawn bod yr arian a gasglwyd wrth werthu bagiau siopa, cynllun arloesol a ddatblygwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol rai blynyddoedd yn ôl, yn mynd i elusen leol. Enillodd yr elusen Create a Smile bleidlais gyhoeddus a nhw yw elusen y siop leol am y flwyddyn ac maen nhw wedi derbyn £10,000 hyd yma.”