Sylw gan Llyr Gruffydd, Plaid Cymru AC Gogledd Cymru:
“Rydym yn cydymdeimlo â theulu’r fenyw a gollodd ei bywyd ar Fwlch yr Oernant.
“Dyma’r diweddaraf mewn cyfres hir o ddamweiniau angheuol, a gellid bod wedi osgoi rhai pe bai sylw wedi’i roi i’r galwadau blaenorol am fesurau diogelwch ar hyd y darn hwn o’r ffordd.
“Rwyf wedi anfon gair at Heddlu Gogledd Cymru i holi a oes mannau peryglus penodol, lle gall fod angen gosod rhwystrau neu wneud gwelliannau i sicrhau nad oes mwy o farwolaethau.”