KIRSTY WILLIAMS YN PLEIDLEISIO YN ERBYN ADDEWID MANIFFESTO 2016
Mae Kirsty Williams AC y Democratiaid Rhyddfrydol wedi ei beirniadu’n hallt gan Ysgrifennydd Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg, Llyr Gruffydd AC, am bleidleisio gyda Llywodraeth Lafur Cymru yn erbyn y Bil Awtistiaeth yn y Cynulliad neithiwr.
Dywedodd Llyr Gruffydd AC fod penderfyniad yr unig AC Democratiaid Rhyddfrydol i bleidleisio yn erbyn y bil yn cynrychioli tro pedol ar bolisi ei phlaid.
Lai na chwe mis yn ol, brwydrodd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Etholiad Cynulliad gydag ymrwymiad maniffesto clir “i gyflwyno Bil Awtistiaeth, i fodloni anghenion pobl awtistig ar gyfer tymor nesaf y Cynulliad a thu hwnt.”
Dywedodd Llyr Gruffydd AC Plaid Cymru, “Mae’r ffaith fod Kirsty Williams wedi dewis pleidleisio gyda Llywodraeth Lafur Cymru yn erbyn y Bil Awtistiaeth yn dangos bwlch mawr rhyngddi hi a pholisi ei phlaid.
“Lai na chwe mis yn ol, brwydrodd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ymgyrch Etholiad Cynulliad ar addewid manifesto clir i “gyflwyno Bil Awtistiaeth i fodloni anghenion pobl awtistig ar gyfer y tymor Cynulliad nesaf a thu hwnt.”
“Serch hyn, pan gododd y cyfle i gefnogi Bil o’r fath, dewisodd yr unig AC Democratiaid Rhyddfrydol i ochri gyda’r blaid Lafur llwythol i wrthwynebu beth fyddai wedi bod yn ddarn o ddeddfwriaeth pwysig ac adeiladol.
“Dyma enghraifft arall eto fyth o ragrith y Lib Dems – plaid sydd bellach yn enwog am droi cefn ar eu hegwyddorion a thorri addewidion.
“Nododd faniffesto Plaid Cymru ymrwymiad clir i gyflwyno deddfwriaeth i warchod a hyrwyddo hawliau pobl awtistig yng Nghymru, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
“Yn wahanol i’r Democratiaid Rhyddfrydol, roedd Plaid Cymru yn fodlon rhoi gwleidyddiaeth pleidiol i’r naill ochr a chefnogi’r cynnig yn y Cynulliad ddoe.
“Rhaid dwyn Kirsty Williams i gyfrif dros dro-pedol polisi arall a dylai hi egluro safbwynt ei phlaid ar y pwnc hollbwysig hwn.”