Mae Llyr Gruffydd wedi annog OFWAT, y rheoleiddiwr dwr, i ymchwilio i benderfyniad Dwr Severn Trent i brynu Dŵr Dyffryn Dyfrdwy.
Meddai Mr Gruffydd, Aelod Cynulliad Gogledd Cymru Plaid Cymru, “Mae hyn yn codi nifer o gwestiynau difrifol ynghylch swyddi a gwasanaethau yn y Gogledd. Mae hyn wedi digwydd heb ymgynghori gyda’r gweithlu, cynrychiolwyr y gymuned leol ac yn tanseilio honiadau Llywodraeth y DU fod pwerau ar ddŵr yn dod nôl i Gymru.
“Mae yna faterion penodol y mae’n rhaid i Severn Trent eu hateb:
- Sicrwydd y bydd y swyddi y 190 o weithwyr Dŵr Dyffryn Dyfrdwy yn cael eu cynnal yma yng ngogledd Cymru ac nid ail-leoli i Loegr;
- Gwarantau i gwmnïau lleol megis Huws Gray, Dependable Concrete, Griffiths Tool Hire ac Eco-Readymix, sy’n rhan o gadwyn gyflenwi bresennol Dŵr Dyffryn Dyfrdwy er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw yn ardaloedd Wrecsam a Chaer.
- Gwarantau am bensiynau gweithwyr presennol
- Sicrwydd am y Cyflog Byw. Mae Dŵr Dyffryn Dyfrdwy yn gyflogai Cyflog Byw achrededig tra na Severn Trent yw.
“Mae Dŵr Dyffryn Dyfrdwy yn gwmni Cymreig sydd â hanes hir yn mynd yn ôl i 1864 pan gafodd ei sefydlu yn Wrecsam ac mae ganddo wreiddiau dwfn yn yr ardal leol. Mae’n rhan bwysig o’r gymuned o ran ei nawdd yn ogystal â darparu gwasanaeth a chyflogaeth da.
“Yr wyf yn ysgrifennu at OFWAT i ymchwilio i’r cynnig prynu ac hefyd wedi cysylltu â Severn Trent am y pryderon a godwyd gan weithwyr Dyffryn Dyfrdwy yn sgil y newyddion hyn. Mae’n ddatblygiad pryderus iawn.”