Mae AC Plaid Cymru dros Ogledd Cymru heddiw wedi lleisio pryderon fod bwrdd iechyd yn peryglu diogelwch cleifion a heb ddysgu gwersi o sgandal am ward iechyd meddwl.
Lleisiodd Llyr Gruffydd AC ei bryderon yn y Senedd am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi i adroddiad dynnu sylw at ddiffygion difrifol ynghylch diogelwch cleifion.
Dywedodd fod cofrestr risg y bwrdd iechyd ei hun yn golygu fod y bwrdd, mewn rhai achosion, mewn perygl o dorri’r gyfraith.
Amlinellodd canfyddiadau’r adroddiad diogelu blynyddol 13 maes risg ‘coch’, gan gynnwys:
- Risg o gosb a achoswyd gan “fethiannau arwyddocaol i gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu “. Mae hyn yng nghyswllt rheolau am pryd a pham y cedwir cleifion oedrannus neu fregus er eu lles, pan na fydd ganddynt y gallu meddyliol i benderfynu drostynt eu hunain
- Efallai na fydd oedolion a phlant sy’n derbyn gofal sydd mewn perygl o gam-drin domestig neu broblemau iechyd meddwl “yn cael eu nodi pan ddeuant i adrannau brys, a all arwain at niwed arwyddocaol “
- Mae 40% o staff yn y bwrdd heb eu hyfforddi mewn diogelu, “sy’n arwain at risg y gellir peryglu diogelwch cleifion “
- Mae “torri sylweddol ar ddeddfau sy’n gysylltiedig â rhannu gwybodaeth gyfrinachol ” trwy ddefnyddio ebyst heb fod yn ddiogel y tu allan i rwydwaith y bwrdd
Holodd Mr Gruffydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn y Senedd ar y mater, gan ddweud fod hyn yn fater nid yn unig i’r bwrdd iechyd ond hefyd i Lywodraeth Cymru, a gymerodd y bwrdd i mewn i fesurau arbennig dros 18 mis yn ôl.
Ychwanegodd Mr Gruffydd: “Aeth blwyddyn a hanner heibio ers eu rhoi mewn mesurau arbennig a derbyn cefnogaeth ychwanegol, a rhaid gofyn a yw Betsi Cadwaladr yn dysgu gwersi ac yn gwneud gwelliannau.”
“Mae’r rhain yn risgiau difrifol a nodwyd gan y bwrdd iechyd ei hun. Dylai’r sgandal am Tawel Fan fod wedi eu rhybuddio am yr angen i fod o ddifrif ynghylch diogelwch a lles cleifion bregus. Tydyn ni ddim am weld hyn yn digwydd eto.”