Bydd myfyrwyr o Ysgol Glan Clwyd yn gobeithio y bydd gwaith arloesol ar ddefnyddio protonau i ddelio a canser yn ennill gwobr a thaith i’r Swisdir.
Mae’r disgyblion Lefel A Ffiseg yn gweithio phennaeth ffiseg Ysgol Glan Clwyd Steffan Tudor a Dr Barry King o Brifysgol Lerpwl er mwyn hyrwyddo therapy arloesol â phrotonau.
Mae’r therapy i’w weld yn fwy effeithiol a llai niweidiol na cemotherapi neu radiotherapy.
Mae’r tîm hefyd wedi bod yn gweithio gyda meddygon Ysbyty Glan Clwyd ac mae’n bosib y bydd y therapi newydd yma’n cael ei ariannu gan y gwasanaeth iechyd.
Ddiwedd y mis yma bydd y prosiect yn cael ei gyflwyno fel rhan o gystadleuaeth lle mae’r ennillydd yn cael defnyddio’r paladr protonau yn CERN, yn y Swisdir er mwyn profi’r theory.
Dywedodd Llyr Gruffydd, AC Plaid Cymru ar gyfer Gogledd Cymru: “Er nad ydw i’n wyddonydd, cefais fy siomi ar yr ochr orau gyda phrosiect y myfyrwyr. Roedden nhw i gyd yn llawn brwdfrydedd am y cynllun ac yn siarad yn eiddgar am sut y gall helpu cleifion â chanser.
“Fel gydag unrhyw therapi newydd mae angen treialu ac asesu ei effeithiolrwydd ond mae’n ymddangos y gall hwn gael budd go iawn i’r gwasanaeth iechyd. Mae’r ffaith fod y Gwasanaeth Iechyd yn gweithio ar y therapi yma ac yn ystyried codi tri chanolfan newydd yn Llundain, Manceinion a Chasnewydd yn arwydd o faint mor ymarferol y mae’r gwaith gwyddonol yma.
“Dywedodd y myfyrwyr wrtha’i mai cost ydi’r prif broblem wrth gyflwyno’r therapi protonau ar y funud – mae’n deirgwaith yn ddrutach na’r triniaethau canser presennol. Ond, os yw’n profi’n fwy effeithiol ac yn llai niweidol yna mae na achos da i’w wneud drosto. Mae’n fendigedig gweld y myfyrwyr yma ar flaen y gâd yn datblygu prosiectau fel hyn law yn llaw â meddygon ysbyty ac academyddion prifysgol.
“Does gen i ddim amheuaeth y gallen nhw ennill y gystadleuaeth a hawlio’r trip i CERN yn y Swisdir.”
Dywedodd eu hathro Steffan Tudor: “Mae disgyblion Ffiseg Blwyddyn 12 Ysgol Glan Clwyd yn paratoi cais i ddefnyddio’r paladr protonau yn CERN, Genefa. Maent yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth rhyngwladol ‘BeamLine 4 Schools’ a’r wobr i’r tim buddugol bydd wythnos yn CERN ym mis Gorffennaf a’r cyfle i ddefnyddio rhai o adnoddau mwyaf technolegol y byd.
“Syniad y tim, sydd yn cydweithio efo Prifysgol Lerpwl ac Ysbyty Glan Clwyd, yw i fodelu triniaeth protonau, sef y dull mwyaf manwl gywir ac effeithiol o drin rhai mathau o cancr. Mae’r grwp yn frwdfrydig iawn ac yn awyddus i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r dechnoleg arbennig yma. Roedden nhw’n falch iawn o gael sgwrs efo Llyr Huws Gruffydd i rannu eu syniadau. Pob hwyl i’r criw!”
Llun: Dr Barry King, prifysgol Lerpwl; Steffan Tudor (athro); Morgan Austin; Nia Pearson; Warren Luff; Harry Jones; Osian Williams; Ethan Hodge; Harri Evans; Ryan Parry