Argyfwng staffio ar y gorwel medd AC wrth i arolwg ddangos fod 1 o bob 3 athro’n barod i roi’r gorau iddi
Mae Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg, Llyr Gruffydd AC, heddiw wedi rhybuddio fod y sector addysg yng Nghymru’n wynebu argyfwng staffio dros y blynyddoedd nesaf os nad yw Llywodraeth Lafur Cymru’n cymryd y camau angenrheidiol i wella lefelau cynnal staff.
Mae’r Arolwg Gweithlu Addysg Cenedlaethol a gyhoeddir heddiw yn datgelu fod 1 o bob 3 athro a holwyd yn bwriadu gadael y proffesiwn o fewn y tair blynedd nesaf, gydag 88% yn nodi nad ydynt yn medru ymdopi gyda gofynion eu llwyth gwaith.
Noda’r Arolwg hefyd nad oedd 71% o athrawon llanw a 38% o athrawon ysgol yn gyfarwydd iawn, neu ddim o gwbl, gydag argymhellion Adolygiad Donaldson.
Dywedodd Llyr Gruffydd AC, “Mae’r adroddiad hwn yn adlewyrchiad damniol o fethiant y Llywodraeth Lafur i wneud dysgu’n broffesiwn deniadol i bobl yng Nghymru.
“Nid yn unig mae’r ffigyrau’n frawychus o ran y niferoedd sy’n nodi nad ydynt yn gallu ymdopi gyda gofynion eu llwyth chwaith – cyfanswm o 88% – mae’r Arolwg hefyd yn dangos effaith niweidiol posib y methiant hwn i warchod llesiant staff yn y sector addysg drwyddi draw.
“Nododd 1 o bob 3 athro eu bod yn bwriadu gadael y proffesiwn dysgu o fewn y tair blynedd nesaf. Mae hyn ar ben ffigyrau diweddar sy’n dangos fod y nifer o ddyddiau dysgu sydd wedi eu colli i salwch ynghlwm a phwysau gwaith wedi mwy na dwblu o 21,000 yn 2009 i 52,000 yn 2015.
“Mae ffigyrau hefyd yn dangos fod canolfannau hyfforddi athrawon yng Nghymru wedi methu a chyrraedd eu targedau ar gyfer athrawon cynradd ac eilradd.
“Dyma’r amodau perffaith am storm yn ein sector addysg fydd yn arwain at argyfwng staffio yn y proffesiwn dysgu os nad yw’r Llywodraeth Lafur yn mynd i’r afael a’r broblem.
“Mae hefyd yn destun pryder fod nifer o athrawon yn parhau i fod yn anghyfarwydd gydag argymhellion allweddol Adolygiad Donaldson. Mae Plaid Cymru wedi pwysleisio pwysigrwydd sicrhau fod gweithredu diwygiadau addysg yn cael ei gynnal mor effeithiol a phosib.
“Os ydym eisiau newid esmwyth i gwricwlwm Donaldson yna rhaid sicrhau fod ein hathrawon yn barod am hynny.
“Rwy’n annog Llywodraeth Lafur Cymru i gyflwyno cynllun cynhwysfawr fydd yn sicrhau gweithlu addas i bwrpas ar gyfer y dyfodol a lleddfu ofnau rhieni a disgyblion.”