Rhaid gwneud mwy i fynd i’r afael â thangyllido a’r argyfwng cynyddol yn y gweithlu, dadleua AC y Blaid
Mae Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Addysg, Llyr Gruffydd AC wedi ymateb i’r categoreiddio diweddaraf ar ysgolion trwy alw am ‘fwy o synergedd’ rhwng y ddwy system o asesu ysgolion.
Dywedodd Llyr Gruffydd AC fod y categoreiddio presennol yn “system goleuadau traffig amrwd” gan ddweud y dylid gosod fframwaith cyffredin i bawb i helpu rhieni, athrawon a llunwyr polisi i ddeall yn well beth sy’n digwydd mewn gwirionedd yn ein hysgolion.
Rhybuddiodd hefyd, os yw safonau addysg am wella yn sylweddol, fod yn rhaid gwneud mwy i fynd i’r afael â “phynciau sylfaenol” tangyllido ysgolion a’r argyfwng gweithlu sydd ar y gorwel.
Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Addysg, Llyr Gruffydd AC:
“Os yw’r Llywodraeth o ddifrif am wella addysg yn ein hysgolion, yna rhaid iddynt wneud mwy i fynd i’r afael â phynciau sylfaenol tangyllido ysgolion a’r argyfwng gweithlu sydd ar y gorwel oherwydd eu methiant i recriwtio a chadw digon o athrawon.
“Mae angen iddynt hefyd esbonio pam fod gwahaniaeth o hyd rhwng categoreiddio ysgolion a chanlyniadau arolygon Estyn, sydd yn dal yn gallu croesddweud ei gilydd.
“Mae arnom angen gwell synergedd rhwng y ddwy system o asesu ysgolion a fframwaith cyffredin y gellir ei osod i bawb i helpu rhieni, athrawon a llunwyr polisi i ddeall yn well beth sydd wir yn digwydd yn ein hysgolion. Byddai hyn yn well na system o oleuadau traffig amrwd.
“Does dim modd cymharu’r ffigyrau hyn yn ystyrlon chwaith â’r blynyddoedd blaenorol o gofio’r newidiadau yn y ffordd yr aseswyd ysgolion y tro hwn.
“Mae’r Llywodraeth wedi cyfaddef na allant felly ddefnyddio ffigyrau’r categoreiddio i nodi tueddiadau cadarnhaol neu negyddol yn y ddarpariaeth. Byddai unrhyw honiadau o’r fath yn annidwyll.”