Byddai bwriad Cyngor Sir y Fflint i gael gwared ar gludiant am ddim i ysgolion Cymraeg yn torri polisi’r awdurdod, yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru.
Dywedodd Llyr Gruffydd, AC Plaid Cymru dros Ogledd Cymru: “Mae’r cynnigion gerbron cabinet Sir y Fflint Ddydd Mawrth nesaf yn awgrymu y gellid stopio cludiant am ddim i ysgolion Cymraeg. Tra’n deall fod yn rhaid i gynghorau ystyried pob mathau o arbedion ar hyn o bryd oherwydd diffyg arian, byddai bwrw mlaen efo hyn yn hynod o niweidiol i addysg Gymraeg yn y sir.
“Mae’r bwriad hefyd yn mynd yn groes i bolisi cludiant presennol y cyngor sy’n gwneud hi’n glir fod hawl cael trafnidiaeth am ddim i ysgolion Cymraeg.
“Mae’r cyngor, fu unwaith yn arloesi o ran addysg Gymraeg, bellach yn cael ei weld yn llusgo traed ers blynyddoedd ac heb weld y twf mae siroedd eraill wedi gweld yn y maes addysg. Diffyg arweinyddiaeth a diffyg ymroddiad yw hyn ac mae’n anhygoel fod y fath beth yn cael ei grybwyll. Dylai hyn fynd i’r bin a dwi’n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn dangos arweiniad cliriach er mwyn i siroedd ddeall fod angen ehangu addysg Gymraeg nid ei danseilio. Os yw’r Llywodraeth yma o ddifri’ am greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, bydd y twf yn dod mewn ardaloedd fel Sir y Fflint. Mae cynlluniau fel hyn yn gwbl groes i’r amcan yna.”
Bydd yr adolygiad o drafnidiaeth ysgol yn cael ei ystyried gan gabinet Sir y Fflint dydd Mawrth.