Wrth ymateb i gyhoeddi adroddiad ar gyllid wedi ei dargedu i wella deilliannau addysg gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol, dywedodd ysgrifennydd cabinet cysgodol Plaid Cymru dros addysg a dysgu gydol oes, Llyr Gruffydd AC,
“Mae’r adroddiad hwn yn amlygu canlyniad arall eto sy’n deillio o’r argyfwng cyllid sy’n wynebu ein hysgolion. Yr wythnos ddiwethaf yn unig, tynnodd Plaid Cymru sylw at y pwysau cynyddol ar ysgolion i ddefnyddio cyllid wedi ei dargedu megis y Grant Datblygu Disgyblion i wneud iawn am ddiffygion yn y cyllid craidd. Mae defnyddio’r grantiau hyn at ddibenion ehangach ac i gau tyllau mewn cyllidebau yn tanseilio eu holl natur o fod wedi eu targedu, ac y mae hyn yn eu gwneud yn llai effeithiol.
“Mae Plaid Cymru hefyd yn rhannu pryderon Estyn a’r pwyllgor nad yw traean o ysgolion Cymru yn defnyddio’r grant yn effeithiol. Mae’n amlwg nad yw’r gronfa hon yn cyrraedd ei photensial llawn ar draws pob ysgol, a rhaid i Lywodraeth Cymru weithio’n galetach i sicrhau gwell effeithlonrwydd a gwerth am arian am y buddsoddiad hwn, sydd bron yn £100m.”