Yn ymateb i adroddiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Darparu gwerslyfrau ac adnoddau dysgu i ddisgyblion meddai Llyr Gruffydd AC ac ysgrifennydd cabinet cysgodol Plaid Cymru dros addysg,
“Am yn rhy hir mae athrawon wedi bod yn gorfod cyfieithu llawer eu hadnoddau dysgu eu hunain. Mae hyn yn gwbwl anerbyniol ac mae’n anheg arnyn nhw a’u disgyblion.
Mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru ac mae gan bob disgybl yr hawl i ddewis dysgu eu pynciau yn eu dewis iaith. Mae’n ddyletswydd ar y Llywodraeth felly i sicrhau fod siaradwyr Cymraeg yn cael yr un gefnogaeth a’u cyfoedion sy’n astudio trwy gyfrwng y Saesneg. Ni ddylid cyflwyno cyrsiau newydd na diwygiadau i gyrsiau yn y dyfodol nes bod yr holl adnoddau dysgu angenrheidiol ar gael yn Gymraeg a’r Saesneg.”