Yn ymateb i gadarnhad gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol y byddai miliwn o weithwyr yn y sector cyhoeddus yn derbyn eu codiad cyflog mwyaf ers deng mlynedd, meddai Llyr Gruffydd AC ac ysgrifennydd cabinet cysgodol Plaid Cymru dros addysg a dysgu gydol oes:
“Mae’n hen bryd i ni gael codiad cyflog i athrawon a gweithwyr eraill yn y sector cyhoeddus. Mae llawer ohonynt wedi wynebu toriadau difrifol i’w cyflog oherwydd toriadau’r Ceidwadwyr dros y degawd diwethaf.
“Fodd bynnag, mae angen eglurhad arnom hefyd gan Lywodraeth y DG ynghylch â sut y bydd y llacio’r cap cyflog yn cael ei dalu. Os na fydd unrhyw arian ychwanegol yn dod o’r Trysorlys yna bydd y cyfrifoldeb yn disgyn ar ysgolion i ariannu’r codiad cyflog hwn o’u cyllidebau presennol ac mae hynny’n gwbl annerbyniol. Gwyddom eisoes fod llawer o ysgolion â thrafferthion ariannol yn barod ac ni fyddant yn gallu ariannu codiadau cyflog heb ddiswyddo aelodau o staff.”