Llyr Gruffydd AC yn dweud fod Gareth Bennett yn ‘anaddas’ i fod yn aelod o Bwyllgor Safonau’r Cynulliad yn dilyn ei sylwadau diweddar
Wrth ymateb i sylwadau diweddaraf arweinydd grŵp cynulliad newydd UKIP, Gareth Bennett AC , am y comisiynydd safonau, meddai AC Plaid Cymru, Llyr Gruffydd,
“Mae’r dychan a dilorni cyhoeddus gan Gareth Bennett AC o swyddfa’r Comisiynydd Safonau yn golygu ei fod yn anaddas i fod yn aelod o Bwyllgor Safonau’r Cynulliad. Dylai felly ymddiswyddo ei aelodaeth o’r pwyllgor ar unwaith.
“Ni allwch sarhau a chwestiynu uniondeb y Comisiynydd ac yna disgwyl gallu ystyried o ddifrif ei gyngor a’i argymhellion ar faterion difrifol all arwain at atal Aelodau’r Cynulliad.
“Mae ei ddilorni cyhoeddus o rôl y Comisiynydd yn gwneud ei sefyllfa yn anghynaladwy. Dylai sefyll i lawr a chael ei ddisodli gan rywun fydd yn trin y swydd o gynnal safonau mewn bywyd cyhoeddus gyda’r difrifoldeb a’r parch sydd ei angen.”
Ni wnaeth Llyr Gruffydd AC sylw ar yr ymchwiliadau cyfredol i Gareth Bennett AC.