Mae AC Plaid Cymru Llyr Gruffydd yn gwrthwynebu gollwng mwd o Hinkley Point yn Lloegr yn nyfroedd Cymru
Wrth ymateb i’r cynlluniau dadleuol i waredu mwd a gwaddod ym Mae Caerdydd o safle niwclear Hinkley Point, meddai Llyr Gruffydd AC a ysgrifennydd cabinet cysgodol Plaid Cymru ar gyfer ynni, newid yn yr hinsawdd a materion gwledig,
“Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu gollwng gwastraff o Hinkley Point yn Lloegr yn nyfroedd Cymru. Credwn ei bod yn hollol annerbyniol ac yn anegwyddorol i waredu gwastraff o safle adeiladu niwclear yn Lloegr yn nyfroedd Cymru. ”
“Os bydd yn gwasgaru neu’n cael effaith ar yr amgylchedd lleol, bydd cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i wneud yn iawn o unrhyw effaith a geir mewn ardal morol a ddiogelir. Er gwaethaf hyn, ni chynigiwyd taliad na iawndal i drethdalwr Cymru. “