Canmoliaeth am godi ymwybyddiaeth o therapi iaith a lleferydd
Mae AC Gogledd Cymru Plaid Cymru wedi cael ei anrhydeddu gan Goleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd am ei waith i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd datblygiad iaith cynnar.
Dywedodd Llyr Gruffydd AC: “Mae’n anrhydedd gennyf dderbyn y gydnabyddiaeth hon gan yr RCSLT ar gyfer mynd i’r afael â therapi iaith a lleferydd yn y Senedd.
“Mae ymchwil yn dangos y cyswllt cryf rhwng tlodi ac oedi wrth ddatblygu iaith, ac mae bwlch annerbyniol a pharhaus rhwng sgiliau iaith y rhai o’r cefndiroedd tlotaf a’u cyfoedion o gefndiroedd mwy cefnog. Felly, mae annog datblygiad ieithyddol cynnar yn hollbwysig i gau’r bwlch cyrhaeddiad hwnnw ac i wella cyfleoedd bywyd ein plant tlotaf.
“Gall dros hanner y plant mewn ardaloedd sydd ag amddifadedd cymdeithasol ddechrau’r ysgol gyda sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu gwaeth, a erbyn maen nhw’n dair oed, mae plant o’r 20 y cant tlotaf o’r boblogaeth bron i flwyddyn a hanner y tu ôl i blentyn yn y grŵp incwm uchaf o ran datblygu iaith.
“Mae sgiliau llafar, iaith a chyfathrebu gwael plant yn cael effaith enfawr drwy’i bywydau o ran problemau iechyd meddwl, diweithdra a chyfleoedd bywyd eraill. Mae gan chwech o bob 10 o’r bobl ifanc dan glo anawsterau cyfathrebu, ac mae gan 88 y cant o ddynion ifanc hir-dymor ddi-waith anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu.
“Dylai’r ystadegau anhygoel hyn fod yn ddigon o dystiolaeth i wleidyddion a gwneuthurwyr polisi i wneud therapi lleferydd ac iaith yn flaenoriaeth uwch yng Nghymru. Rhaid inni oll barhau i dynnu sylw at y negeseuon hyn nes bod gan bawb fynediad at y gefnogaeth sydd ei angen arnynt. ”
Bydd y wobr ‘Rhoi Llais’ yn cael ei wneud yn Seremoni Anrhydedd y Coleg Brenhinol yng Nghaerdydd ddydd Mercher, Hydref 3ydd.