‘Amdani!’
Mae’r dyn a fu’n arwain yr ymgyrch dros Amgueddfa Bêl-droed Cenedlaethol yn Wrecsam wedi annog Llywodraeth Cymru i adeiladu ar waith astudiaeth ddichonoldeb a gefnogodd y cynnig.
Lansiodd AC Gogledd Cymru, Llyr Gruffydd, yr ymgyrch dair blynedd yn ôl gyda gwleidyddion lleol ac Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yn y Cae Ras. Dywedodd fod canfyddiadau’r astudiaeth yn bwysig mewn dwy ffordd:
“Yn gyntaf mae’n derbyn fod angen amgueddfa bêl-droed genedlaethol ac, yn ail, y dylai’r sefydliad gael ei leoli yn Wrecsam. Mae’r ddau yn gasgliadau pwysig oherwydd roedd rhywfaint o amheuaeth ynghylch ein hymgyrch ar y cychwyn.
“Mae canfyddiadau’r adroddiad hefyd yn dilysu’r ymgyrch â lansiwyd dair blynedd yn ôl gyda chyd-weithwyr Plaid Cymru ochr yn ochr â chyfarwyddwyr Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yn y Cae Ras.
“Ein dadl adeg hynny oedd y dylid lleoli amgueddfa bêl-droed genedlaethol yn Wrecsam, cartref ysbrydol y gêm. Dyma ble y dechreuodd pêl-droed yng Nghymru ac mae’n dal i fod yn gartref i’r stadiwm rhyngwladol hynaf yn y byd yn ogystal â’r trydydd clwb pêl-droed hynaf yn y byd. Hefyd, mae FA Cymru wedi dewis buddsoddi yn y dyfodol gyda Chanolfan Datblygu Pêl-droed Cenedlaethol ym Mharc y Glowyr gerllaw.
“Bu Plaid Cymru yn dadlau dros Amgueddfa Bêl-droed Cenedlaethol yn ein maniffesto yn 2016 a sicrhaodd yr astudiaeth dichonoldeb ei ariannu yng nghyllideb 2017-8 gan Lywodraeth Cymru.”
Ond dywedodd Mr Gruffydd ei fod yn disgwyl mwy o’r adroddiad a byddai’n gofyn mwy gan Lywodraeth Cymru:
“Mae angen i ni weld amserlen pendant er mwyn sicrhau y bydd pethau’n digwydd cyn gynted ag y bo modd – mae angen mynd amdani nawr.
“Mae angen i ni hefyd sicrhau ei bod yn Amgueddfa Genedlaethol briodol, yn rhan o deulu Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn hytrach na’r amgueddfa leol a argymhellir yn yr adroddiad hwn.
“Ac mae’n rhaid imi ddweud fy mod yn siomedig bod y cynnig i’w leoli yn The Racecourse yn cael ei drafod yn swta mewn un paragraff ffwrdd â hi. Pam?
“Mae Plaid Cymru yn awyddus i weld y datblygiad hwn yn digwydd a byddwn yn parhau i bwyso i’r amgueddfa hon fod yn gatalydd ar gyfer ail-ddatblygu’r Cae Ras.”
Dywedodd Mr Gruffydd fod y methiant, hyd yma, i sefydlu Amgueddfa Genedlaethol yn y Gogledd-ddwyrain yn fethiant hanesyddol y byddai angen gwneud yn iawn amdani. Dywedodd fod hwn yn gyfle unigryw i unioni’r cam ac roedd yn annog Llywodraeth Cymru i beidio â cholli’r cyfle hwnnw.
Ychwanegodd: “Dyma gyfle go iawn i adeiladu ar yr astudiaeth a sicrhau ei fod yn digwydd. Gadewch i ni fynd â’r maen i’r wal er budd Wrecsam, pêl-droed a’r economi leol. ”