Galwch am newid cyfeiriad ar ôl penderfyniad Hitachi
Mae angen cynllunio at y dyfodol ar fyrder yn Ynys Môn a gweddill y Gogledd o ganlyniad i benderfyniad Hitachi i atal gwaith ar Wylfa Newydd, yn ôl gweinidog ynni cysgodol Plaid Cymru.
Dywedodd Llyr Gruffydd AC, sy’n cynrychioli’r ynys fel rhan o’i ranbarth Gogledd Cymru ac sy’n cadeirio Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ar gyfer Gogledd Cymru: “Mae penderfyniad Hitachi i atal gwaith ar Wylfa Newydd yn golygu bod angen inni fod yn realistig wrth symud ymlaen. Mae Hitachi wedi rhoi’r gorau i’r prosiect hwn am y tro o leiaf ac felly ni ddylem ni aros am gyfnod amhenodol. Bydd angen i lywodraethau’r DU a Chymru dynnu llinell dan hwn a symud ymlaen ar fyrder. Mae angen i ni ddatblygu Cynllun B ar gyfer yr economi ranbarthol.
“Rwyf am gael sicrwydd gan Lywodraethau’r DU a Chymru y gallai’r biliynau o bunnoedd a gynigir ar gyfer y prosiect hwn gael eu buddsoddi mewn cyfres o brosiectau ynni adnewyddadwy a fydd yn creu ac yn diogelu swyddi mewn sector sy’n dod i’r amlwg.Mae angen sicrhau y bydd Ynys Môn yn ganolfan technoleg newydd ac ni ddylai atal y prosiect penodol yma olygu ansicrwydd amhenodol i bobol leol. Dyna’r sefyllfa waethaf posibl.
“Heddiw, rwyf wedi siarad ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns a phwysleisio bod rhaid i atal cynllun Wylfa Newydd weld buddsoddiad yn yr ynys yn parhau. Ynys Môn yw’r rhan dlotaf o’r DU yn economaidd ac nid yw disgwyl am gyfnod amhenodol am Wylfa Newydd yn opsiwn. Mae gweithwyr ac yn enwedig pobl ifanc sy’n ymuno â’r farchnad lafur yn haeddu atebion clir i’r ansicrwydd y maent yn eu hwynebu erbyn hyn.
“Bydd Plaid Cymru yn gwthio am arian ar gyfer dewisiadau amgen oherwydd ei fod bellach yn glir na allwn gadw ein wyau mewn un fasged penodol. Mae’n rhaid i’r economi ar Ynys Môn gael ei gefnogi i arallgyfeirio er mwyn i ni addasu arbenigedd presennol a datblygu sgiliau newydd fel y gall gweithwyr y dyfodol aros ar yr ynys mewn gwaith o safon. “