Mae AC Plaid Cymru, Llyr Gruffydd, wedi nodi Diwrnod Cofio’r Holocost, sy’n cofnodi’r diwrnod y cafodd gwersyll garchar y Natsiaid Auschwitz-Birkenau ei ryddhau.
Llofnododd AC Gogledd Cymru Llyfr Ymrwymiad yr Holocost yn y Senedd i anrhydeddu’r rhai a gafodd eu llofruddio yn ystod yr Holocost, yn ogystal â thalu teyrnged i rhai a oroesodd yr Holocost sy’n parhau i addysgu pobl ifanc heddiw.
Dywedodd Mr Gruffydd: “Mae’n bwysig ein bod yn cofio’r miliwn o bobl a gafodd eu llofruddio yn Auschwitz-Birkenau, y gwaethaf o’r holl wersylloedd carchar Natsïaidd, a holl ddioddefwyr eraill yr Holocost. Efallai ei bod hi’n bwysicach heddiw nag erioed o’r blaen ein bod yn myfyrio ar sut y mae’r cynydd o ran casineb hiliol a jingoiaeth yn ysgogi’r troseddau ofnadwy hyn a sut mae gwleidyddion anghyfrifol yn chwarae gyda bywydau pobl pan fyddant yn targedu lleiafrifoedd.
“Mae gan bawb ohonom ran i’w chwarae wrth ddweud ‘Byth eto’ ond rwy’n gobeithio y bydd ysgolion yn arbennig yn parhau i addysgu cenedlaethau’r dyfodol am beryglon ffasgiaeth.”