Gwnaed hanes yn y Cynulliad Cenedlaethol yn ddiweddar pan gyfarfu seneddwyr ifanc ag Aelodau Cynulliad am y tro cyntaf.
Dyma’r tro cyntaf i unrhyw Senedd etholedig gynnal sesiwn ar y cyd rhwng uwch wleidyddion a’u partneriaid iau. Etholwyd 60 aelod o’r Senedd Ieuenctid yn ddiweddar o bob cwr o Gymru i gynrychioli llais pobl ifanc yng Nghymru.
Dywedodd Llyr Gruffydd, AC Gogledd Cymru Plaid Cymru: “Roeddwn wrth fy modd yn cael cwrdd â rhai o’r cynrychiolwyr ifanc sydd wedi cael eu hethol i’r Senedd Ieuenctid. Roedd safon y drafodaeth yn uchel iawn ac mae hynny’n rhoi ffydd i mi fod y genhedlaeth newydd yma yn fwy nac abl. Roedd yn bleser arbennig cwrdd â chynrychiolwyr o’r Gogledd ac rwy’n bwriadu parhau i weithio gyda’r bobl ifanc galluog yma dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.”