Llafur yn codi ffioedd dysgu

Western Mail 13.07.2017

Syfrdanwyd myfyrwyr yr wythnos yma pan ddarganfuwyd bod eu lefelau dyled sydd eisoes yn enfawr, yn disgwyl i gynyddu diolch i benderfyniad y clymblaid Llafur/Democratiaid i gynyddu y ffioedd dysgu yng Nghymru.

Dylai addysg fod am ddim, a bu cael gwared ar ffioedd dysgu yn bolisi gan Blaid Cymru erioed, cyn gynted ag y bydd cyllid cyhoeddus yn ei ganiatáu. Rydym yn cefnogi’r cynigion a gyflwynwyd gan yr Athro Ian Diamond i gefnogi myfyrwyr â chostau byw ymlaen llaw. Mae llawer o fyfyrwyr yn ei chael hi’n anodd i dalu am le i aros, bwyd a llyfrau a, gyda’r cyllid cyfyngedig, mae cael gwared ar y rhwystr hwn yn flaenoriaeth. Pleidleisiodd ein ASau yn erbyn y cyflwyniad o ffioedd dysgu gan y Llywodraeth Lafur yn 1998 ac yn erbyn y penderfnyiad gan y clymblaid Ceidwadwyr/ Democratiaid Rhyddfrydol iw treblu yn 2010.

Roeddem yn siomedig ddoe pan, heb ddim rhybydd, cyhoeddodd y llywodraeth y bydden yn cynyddu y ffioedd dysgu yn unol â chwyddiant. Dilynai hyn ymgyrch yn yr Etholiad Cyffredinol lle’r oedd cael gwared o ffioedd dysgu yn un o bolisiau allweddol Llafur. Mae Plaid Cymru wedi ysgrifennu at arweinydd y Blaid Lafur yn y DG, Jeremy Corbyn, yn gofyn pam nad yw ei blaid yn cyflawni’r polisïau hyn yma yng Nghymru, lle y mae ganddynt y pŵer i wneud.

Byddai’n anodd gweithredu’n unochrog i gael gwared a’r ffioedd dysgu, ond mae’r symudiad hwn gan y Blaid Lafur yn ein tynnu hyd yn oed ymhellach oddi wrth addysg i fod ar gael yn rhwydd i bawb – egwyddor y maent yn honni i’w gefnogi.

Mae Ysgrifennydd Cabinet y Democratiaid Rhyddfrydol wedi rhoi’r blaid mewn sefyllfa lle mae, eto, yn gorfod ymddiheuro i fyfyrwyr am godi ffioedd dysgu. Yn wir, mae ei hamddiffyniad o’r penderfyniad yn swnio’n debyg iawn i Jo Johnson ar fainc flaen y Torïaid yn San Steffan.
Yn y cyfnod cyn yr etholiad cyffredinol, dywedodd y Prif Wenidog Llafur: “…os bydd y Torïaid yn ennil yr etholiad cyffredinol, mi fydd myfyrwyr yn ei chael hi’n galetach fyth. Mi fydden yn cael eu gorfod i dalu hyd yn oed fwy.” Ychydig a feddyliodd myfyrwyr mai Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol fyddai’n ei gwneud hi’n anodd iddynt, wrth godi’r ffioedd dysgu i’r lefel uchaf erioed yng Nghymru.

Mae’n bosibl felly y bydd ein myfyrwyr yn cael mwy o gymorth i gynnal a chadw costau nag mewn unrhyw le arall yn y DG, ond dyw hyn ddim yn esgusodi ychwanegu at ddyledion ariannol myfyrwyr – dyled y bydd llawer byth am allu ei dalu’n ôl.

Mae gan yr Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr (NUS) Cymru berffaith hawl i fod yn “ddig iawn” bod Llywodraeth Cymru wedi dewis i ganiatau myfyrwyr i ddioddef oherwydd agenda llymder San Steffan. Dywedant hefyd ei fod am wneud y dasg o gael myfyrwyr i fewn i addysg uwch yn galetach – nid yn haws.

Roedd gan Llywodraeth Cymru ddewis, byddai wedi gallu rhoi mwy o gyllid i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer prifysgolion, i sicrhau ei bod yn parhau i ddarparu addysg ardderchog. Yn lle hynny, dewisodd i drosglwyddo’r gost i fyfyrwyr.

Am yr ail dro mewn cynifer o wythnosau, mae Llafur yn torri addewid maniffesto etholiad cyffredinol ei hun. Er gwaethaf gaddo i’r gwrthwyneb, yng Nghymru maent yn cadw cyflogau yn y sector gyhoeddus i lawr ac yn gosod ffioedd dysgu uwch. Tybed pa addewid fydden nhw’n ei dorri nesaf?